Croeso
Welcome
Cynhadledd annibynnol ar ffermio a bwyd cynaliadwy
Cynhelir CGFFfC 2025 yng Ngholeg Penybont, Campws Pencoed yn Ne Cymru ar 18-20 Tachwedd. Mae tocynnau ar werth nawr.
Sefydlwyd y Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru i archwilio bwyd a ffermio cynaliadwy, gan ddod â ffermwyr, busnesau bwyd eraill, amgylcheddwyr a phobl sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, addysg bwyd, sofraniaeth bwyd a chyfiawnder cymdeithasol ynghyd.
Ei nod yw agor sgyrsiau a chymryd camau cadarnhaol ynghylch dyfodol bwyd yn ein gwlad, gan fapio system fwyd gynaliadwy ar gyfer yr 21ain ganrif i Gymru a sut y gallem ddechrau ei hadeiladu.
Ysbrydolwyd y gan yr Oxford Real Farming Conference, cynhaliwyd y Gynhadledd cyntaf yn Aberystwyth yn 2019. Yn 2020 a 2021, cynhalwyd digwyddiadau rhithiol yn sgil Covid-19. Yn 2022, cwrddom mewn person ar gampws Llambed y Drindod Dewi Sant, yn 2023 yng Ngholeg Cambria Llysfasi, Rhuthun, gan ddychwelyd i Lambed yn 2024.
Diolch i chi am eich cefnogaeth!
CyFAN Cymru: Cymuned dros Fwyd, Amaeth a Natur
Rydym wrthi yn creu elusen fydd yn dod â phobl at ei gilydd i greu llwyfan er mwyn ail-ddylunio ac adnewyddu systemau bwyd a ffermio a defnydd tir yng Nghymru.
Rydym yn gwneud hyn drwy greu mannau cyfarfod a thrafod – yn gorfforol ac yn rhithiol – lle gall pobl o bob rhan o’r system fwyd ddod at ei gilydd.
An independent conference on sustainable food and farming
WRFFC 2025 will be held in Bridgend College, Pencoed Campus, South Wales on 18-20 November. Tickets are on sale now.
The Wales Real Food and Farming Conference was established to explore sustainable food and farming, bringing together farmers and other food businesses, environmentalists and people involved in public health, food education, food sovereignty and social justice.
Its aim is to open conversations and take positive steps about the future of food in our country, mapping out a sustainable 21st century food system for Wales and how we might begin to build it.
Inspired by the Oxford Real Farming Conference, the first Wales Real Food & Farming Conference, was held in Aberystwyth in 2019. In 2020 and 2021, we held virtual events because of Covid-19. In 2022, we met in person at the Lampeter campus of UWTSD, in 2023 at Coleg Cambria Llysfasi, Ruthin, and in 2024 we returned to Lampeter.
Thank you for your support!
CyFAN Cymru: Community for Food, Agriculture and Nature
We are working to create a charity that will bring people together to create a platform to re-design and renew food and farming systems and land use in Wales.
We do this by creating meeting and discussion spaces – physical and virtual – in which people from all parts of the food system can come together.
Am fwy o wybodaeth nodwch eich cyfeiriad ebost isod a chliciwch “Ymunwch â’n rhestr e-bost” / For more information, enter your email address below and click the “Join our email list” button
Rhoddion / donations
Ariennir Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru yn llwyr gan noddwyr a gwerthiant tocynnau, gyda phrisiau tocynnau mor isel â phosibl. Rydym hefyd yn ymchwilio i sut y gallwn adeiladu ar ei llwyddiant. Os hoffech chi gyfrannu tuag at y Gynhadledd a’n gweithgareddau yn y dyfodol, mae croeso i chi gyfrannu yma, neu cysylltwch â ni ar gwybodaeth@cgfffc.cymru. Bydd eich rhodd yn ein helpu i ddarparu tocynnau gostyngedig i’r rhai sydd eu hangen.
The Wales Real Food and Farming Conference is entirely funded by sponsors and ticket sales, with ticket prices being as low as possible. We are also investigating how we can build on its success. If you would like to contribute towards the Conference and our future activities, please feel free to donate here, or contact us on info@wrffc.wales. Your donation will help us provide discounted tickets for those who need them.
Dewiswch swm / Choose an amount
Neu nodwch swm arall / Or enter another amount
Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad. / Your contribution is appreciated.
Rhowch / DonateMae ein Datganiad Preifatrwydd Data ar gael (yn Saesneg) yma / Our Data Privacy Statement is available here:
